8. Dadl: Y Setliad Llywodraeth Leol 2020-2021

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 3 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:27, 3 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am yr ymyriad yna. Byddwn, yn sicr, nid wyf yn dweud, o bell ffordd, nad oes darpariaethau na fyddem yn eu croesawu. Rwy'n credu ar y cyfan, fod gormod o golli cyfleoedd yma yn ein tyb ni. Ond, wrth gwrs, bydd rhai pethau, fel y rhai y sonioch amdanynt, y byddem yn eu croesawu.

Felly, i gloi, Llywydd, mae cynnydd yn setliad eleni, ond er ei fod yn gam i'r cyfeiriad cywir, nid yw'n ddigon hyd yn oed i gynnal darpariaeth bresennol awdurdodau lleol, yn dilyn degawdau o doriadau, a dyna pam yr ydym ni ym Mhlaid Cymru yn teimlo nad oes gennym ddewis ond i bleidleisio yn erbyn y setliad cyllid llywodraeth leol heddiw.