Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 4 Mawrth 2020.
Mewn ymateb i'ch cwestiwn olaf am y cynllun adfer tir a ddaeth i ben, nid wyf yn ymwybodol o unrhyw drafodaethau, ond ni chredaf y byddai hynny'n rhan o fy mhortffolio, felly efallai y byddai Gweinidog arall yn edrych ar hynny.
Credaf fod eich pwynt ynghylch safonau yn bwysig iawn. Credaf fod angen inni ystyried safonau, oherwydd yn amlwg, pan oedd y tomenni hynny yno i gychwyn, nid oedd y geiriau 'newid hinsawdd' wedi'u trafod hyd yn oed. Felly credaf, yn sicr, fel rhan o’r gwaith parhaus hwn, y bydd angen ystyried safonau.
Nid wyf wedi cael adroddiad ynglŷn â'r arolygiadau. Hyd y gwn i, mae'r holl arolygiadau wedi'u cwblhau ac rwy'n aros am wybodaeth ynglŷn â hynny, ac rwy'n fwy na pharod i'w rhannu gyda'r Aelodau os bydd modd.