Niwsans Llwch

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 4 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:15, 4 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Ymwelais â Tata yn ôl yn ystod toriad yr haf gyda David Rees, yr Aelod lleol, lle trafodwyd hyn, ac mae fy swyddogion yn parhau i gael sgyrsiau parhaus gyda Tata ynglŷn â hynny.

Nid wyf yn anghytuno â'r hyn a ddywedwch am ymgysylltu â'r cyhoedd. Gorau arf, dysg, yn fy marn i, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn grymuso preswylwyr i wybod beth yn union yw'r llwch, er enghraifft, yr hyn na allant ei weld. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod y wybodaeth honno ganddynt. Ac yn amlwg, gan ein bod wedi cael yr ymgynghoriad hwnnw ynglŷn â'r cynllun ac yna ymlaen at y Ddeddf, credaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni edrych arno'n ofalus iawn.