Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 4 Mawrth 2020.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Mae'n ymddangos—. Yr hyn sy'n peri pryder i mi yw, pan ddywedodd y Prif Weinidog fod gan yr holl sefydliadau hyn gyfrifoldebau i arolygu'r tomenni glo—rwy'n poeni a oes unrhyw orgyffwrdd cyfrifoldeb lle mae'n bosibl na fydd un sefydliad yn glir pwy sy'n gwneud beth. Mewn perthynas â thir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, ai mater i CNC yn unig yw rhoi sicrwydd i chi ac i ni? A ble—. Fe ddywedoch chi mai'r tirfeddiannwr oedd yn gyfrifol, ond wedyn fe restroch chi amryw o sefydliadau na fyddent yn dirfeddianwyr, er enghraifft os yw'n dir preifat. Beth felly yw cyfrifoldeb yr Awdurdod Glo yn erbyn yr awdurdod lleol lle mae'r tir hwnnw wedi'i leoli?