10. Dadl Fer: Ai clefyd yw gordewdra?

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:44 pm ar 4 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 6:44, 4 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am ganolbwyntio ar y mater pwysig hwn, o'r gwaith y mae'n ei wneud yn y grŵp trawsbleidiol ar fwyd a'r grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol yn ogystal â'r gwaith yn ei hetholaeth ei hun. Mae'n tynnu sylw'n gyson at achosion a chanlyniadau gordewdra ac mae'n llais pwysig yn ein Senedd ar y materion hyn.

Fel yr amlinellodd yn ei haraith, eisoes mae gennym oddeutu 600,000 o oedolion 16 oed neu hŷn yng Nghymru sy'n ordew, ac yn fwy pryderus, mae 60,000 o'r rheini'n ordew iawn. Mae'r nifer hwnnw'n cynyddu, ac amcangyfrifir bod 10,000 yn fwy o oedolion yn mynd yn ordew bob blwyddyn. Mae dros chwarter y plant rhwng pedair a phump oed yng Nghymru dros bwysau, gan gynnwys 12.4 y cant sy'n ordew. Mae'r ffigurau hyn yn frawychus. I roi ateb uniongyrchol i'r cwestiwn a ofynnodd Jenny Rathbone yn y ddadl hon, ynglŷn ag a yw gordewdra yn glefyd, dyna yw casgliad Coleg Brenhinol y Meddygon yn ogystal â Sefydliad Iechyd y Byd, sydd wedi categoreiddio gordewdra fel clefyd ers 2016. Felly, ar un ystyr, mae'r awdurdodau arweiniol wedi ateb y cwestiwn.

Nid ydym yn teimlo y byddai cydnabod bod gordewdra yma yng Nghymru yn glefyd ar hyn o bryd yn arwain at ymateb gwahanol o ran gwasanaeth i'r hyn rydym eisoes wedi ymrwymo i fwrw ymlaen ag ef. Mae ein rôl yn ymwneud ag atal ac ymyrryd yn gynnar, yn ogystal â mynd i'r afael â rhai o brif achosion gordewdra a amlinellwyd gan Jenny Rathbone, sef tlodi, yr amgylchedd a deiet. Ar gyfer oedolion a phlant, mae cyfraddau gordewdra yn cynyddu gydag amddifadedd, gyda nifer yr achosion 6 y cant yn uwch ymysg plant pedair i bump oed sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, o gymharu â'r ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru, gan godi i 13 y cant ar gyfer oedolion.

Mae strydoedd sy'n cael eu dominyddu gan geir yn cyfrannu at ein hargyfwng gordewdra. Mae strydoedd traffig trwm yn creu'r hyn sy'n cael ei alw'n 'amgylcheddau obesogenig'—lleoedd sy'n annog pobl i beidio â gwneud gweithgarwch corfforol ac sy'n cyfrannu at broblem diffyg ymarfer corff. Caiff un o bob pedwar oedolyn yng Nghymru eu categoreiddio'n ordew bellach, ond mae'r nifer yn gostwng yn sylweddol ymhlith y rhai sy'n gorfforol egnïol. Felly, mae cael pobl allan o'u ceir ar gyfer teithiau byr yn creu sawl mantais, o aer glanach a ffyrdd llai prysur, i iechyd meddwl gwell a siopau lleol prysurach.

Ac i geisio ateb y cwestiwn a ofynnodd Jenny Rathbone am barthau gwahardd ceir o amgylch ysgolion, rydym newydd ddiweddaru'r canllawiau ar gyfer y prosiect Llwybrau Diogel mewn Cymunedau er mwyn rhoi mwy o bwyslais ar ymyriadau sy'n annog newid ymddygiad. Ac rwyf wedi dweud fy mod wedi cyfarfod â'r holl swyddogion diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru ac wedi nodi fy nisgwyliadau clir iawn nad atebion ar sail peirianneg yn unig roeddem am eu gweld; roeddem am gael atebion a oedd yn mynd i annog newid moddol ac i gymell pobl rhag ymgymryd â gweithgareddau sy'n dibynnu ar geir. Eu lle hwy yn awr yw cyflwyno cynigion ac yn sicr byddem yn croesawu cynigion i gael parthau gwahardd ceir o amgylch ysgolion lle mae cefnogaeth leol i hynny, ac mae Jenny Rathbone yn iawn: mae angen inni ddechrau meddwl yn fwy radical am y math o ymyriadau a welwn o gwmpas ysgolion yn arbennig. Ac rwy'n disgwyl, yn y rownd nesaf o fapiau—y mapiau rhwydwaith unigol y mae awdurdodau lleol yn eu cynhyrchu y flwyddyn nesaf ar gyfer buddsoddi mewn teithio llesol yn y dyfodol—y bydd pob ysgol yng Nghymru yn cael ei mapio ar y cynlluniau hynny, a fydd yn arwain at seilwaith wedyn, gan eu cysylltu â rhwydweithiau dros y cyfnod cynllunio hwnnw.

Mae'r system fwyd, fel y mae Jenny Rathbone yn ein hatgoffa'n gyson, yn cyfrannu at yr epidemig o ordewdra hefyd. Mae mynediad at fwydydd rhad, sy'n cynnwys llawer o halen, siwgr, brasterau ac ychwanegion, wedi annog newid mewn ymddygiad bwyta. Felly, er mwyn cael effaith sylweddol, bydd angen dull trawslywodraethol effeithiol, a dyna pam rydym wedi nodi themâu yn ein strategaeth 10 mlynedd, 'Pwysau Iach: Cymru Iach', a gyhoeddwyd fis Hydref diwethaf, sy'n ymwneud ag amgylcheddau iach a lleoliadau iach. Er enghraifft, byddwn yn ymgynghori ar ddeddfwriaeth yn yr amgylchedd bwyd dros yr haf, ac yn ystyried ystod o fesurau yn y dyfodol, megis hyrwyddiadau prisiau, labelu calorïau a phrynu diodydd. Daw hyn ochr yn ochr â buddsoddi i newid ein hamgylchedd ffisegol mewn mesurau i annog teithio llesol a chreu mannau gwyrdd.

Mae cysylltiad mawr rhwng gordewdra ac anghydraddoldebau iechyd a byddwn yn edrych ar rôl newid ymddygiad i annog newid cynaliadwy. Dyma pam ein bod yn datblygu dulliau wedi'u targedu a'u teilwra, yn enwedig gyda phlant a theuluoedd. Y risg o roi label clefyd ar ordewdra yw y gall llawer o bobl deimlo y bydd gordewdra yn anochel wedyn ar adeg pan ydym am i bobl deimlo y cânt eu galluogi i wneud newid iach—