Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 4 Mawrth 2020.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Ym maniffesto Llafur Cymru ar gyfer etholiadau Cynulliad Cymru yn 2016, cafwyd ymrwymiad i greu awdurdodau lleol cryfach a mwy o faint a fyddai'n arwain at ddatganoli pwerau o Fae Caerdydd. Gwyddom i'ch rhagflaenydd ddweud wrthym fod yn rhaid i gynghorau newid, neu byddai'n gwneud iddynt newid. A allwch egluro os gwelwch yn dda pam na chadwyd at addewid eich maniffesto?