Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 4 Mawrth 2020.
Rydw i'n siarad fel cadeirydd Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad yng Nghymru—rhwydwaith ddefnyddiol iawn eto i ni fel Senedd i ymestyn allan at Seneddau eraill mewn rhannau eraill o'r byd, nid yn unig er mwyn dysgu oddi wrth ein gilydd o ran ymarferion democrataidd, sydd yn bwysig iawn, wrth gwrs, ond hefyd er mwyn gwneud y mathau yna o gysylltiadau sy'n dod yn sgil hynny, sy'n gallu dod â budd diwylliannol ac economaidd i ni fel gwlad.
Rydw i hefyd, am wn i, yn siarad fel aelod o dîm rygbi'r Cynulliad Cenedlaethol, sydd, wrth gwrs, yn elfen arall o'r gwaith ymgysylltu rydym ni'n ei wneud fel Senedd. Ac, ydy, mae o'n dod â gwên i'r wyneb, ond mae o'n ddifrifol, wrth gwrs, achos wrth chwarae fel Senedd yn erbyn yr Assemblée Nationale o Ffrainc—a'u curo nhw, gyda llaw, rhyw bythefnos yn ôl—eto, rydym ni'n ymestyn allan, onid ydym, at ein partneriaid mewn gwledydd eraill? Ac rydw i yn edrych ymlaen at chwarae a churo Senedd Prydain a Senedd yr Alban yn yr wythnosau nesaf hefyd.
Ond o ddifrif, i fi, beth sy'n bwysig ar y cyfnod yma o ddatblygu strategaeth ryngwladol gan Lywodraeth Cymru ydy ei fod o'n digwydd. Mi allwn ni siarad am y gwendidau, dwi'n credu, sydd ynddo fo. Mae rhai ohonyn nhw wedi cael eu crybwyll gan Aelodau eraill yn barod. Dwi'n meddwl bod yr argymhellion, o bosib, ychydig bach yn gyfyng yn eu sgôp. Rydym ni wedi clywed pryderon, o bosib, fod yna dargedau yma sy'n anodd eu cyrraedd. Ond dim ond dechrau'r gwaith ydy hyn, a dwi'n cydnabod hynny. Beth dwi'n gobeithio ei weld ydy y bydd y strategaeth yn dod yn rhywbeth deinamig ac yn rhywbeth sydd yn cyffwrdd â holl waith y Llywodraeth mewn blynyddoedd i ddod.
Fel rydym ni wedi clywed yn barod gan gymaint o gyfranwyr â chyfraniadau difyr iawn, iawn, iawn ynglŷn â chysylltiadau Cymreig ymhob rhan o'r byd, mae Cymru yn wlad sydd yn rhyngwladol, ac wedi estyn allan ac wedi gadael ei marc mewn cymaint o lefydd ar hyd a lled y byd, mewn amgylchiadau anodd. Dwi'n meddwl mai'r diweddaraf i ni fod yn ei drafod ydy'r ysbyty yn Wuhan yn Tsieina—wrth gwrs, un o ysbytai mwyaf Tsieina oedd yng nghanol y pryderon am coronafeirws yn gynharach eleni ac yn parhau felly, ac ysbyty wedi cael ei sefydlu gan Gymro—Griffith John o Abertawe.
Ond beth sydd gennym ni yn y rhwydwaith yma sydd wedi ymestyn i bob cwr o'r byd ydy'r potensial i dyfu'r cysylltiadau hynny, i fanteisio ar y cysylltiadau hynny. A phan mae rhywun yn edrych ar y gwaith rhagorol mae GlobalWelsh wedi'i wneud mewn cyfnod byr iawn, y gwaith sydd wedi cael ei wneud gan Undeb Cymru a'r Byd dros lawer hirach o amser, mae'r rhwydweithiau gennym ni. A beth rydym ni'n gallu ei wneud drwy gael strategaeth ryngwladol a gobeithio gweld Llywodraeth yn parhau'n ddifrifol ynglŷn â datblygu'r strategaeth honno ydy'r gobaith o weld adeiladu ar y gwaith sydd wedi bod yn digwydd dros flynyddoedd yn barod i ddatblygu'r diaspora.