5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Strategaeth Ryngwladol Ddrafft Llywodraeth Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 4 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:09, 4 Mawrth 2020

Beth rydw i eisio gweld ydy Cymru'n tyfu yn ei hyder, ac mae tyfu mewn hyder yn rhyngwladol yn golygu'r angen i gael strategaeth gan Lywodraeth a phenderfynoldeb bob amser i chwilio am gyfleon. Ac er bod yna le i wella, wrth gwrs, ar y strategaeth yma, mae'n fan cychwyn, ac mi fyddwn ni'n gallu dychwelyd at y strategaeth dro ar ôl tro, yn cynnwys, fel dwi'n dweud, yn y cyfarfod yna o'r grŵp trawsbleidiol ymhen rhyw wythnos neu ddwy.