Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 4 Mawrth 2020.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi eisiau dechrau trwy ddiolch i aelodau’r pwyllgor am eu gwaith nhw i’n helpu ni i siapio ein strategaeth ryngwladol. Ynghyd â llawer o randdeiliaid eraill yng Nghymru a rhanddeiliaid mewn gwledydd eraill ar draws y byd, mae’r pwyllgor wedi ein helpu ni i ddatblygu’r strategaeth. Nawr, dwi’n ymwybodol na fydd y pwyllgor yn fodlon aros am bum mlynedd i weld beth fydd yn cael ei gyflawni, a dwi’n ymwybodol hefyd fod aelodau o’r pwyllgor yn dymuno cymryd rhan yn barhaus i fonitro’r portffolio. Felly, dros y misoedd nesaf, byddaf i’n rhyddhau datganiadau a dangos cynlluniau a fydd yn rhoi darlun cliriach o sut byddwn ni’n mynd ati i gyflawni’r strategaeth, a dwi yn gobeithio y bydd hwn yn tawelu meddyliau’r pwyllgor. Dwi eisiau diolch i’r Cadeirydd ac i aelodau’r pwyllgor am eu hadroddiadau ac am eu rhaglen waith sy’n parhau.
Nawr, mae’r ddogfen hon yn cael ei chyhoeddi ar adeg bwysig iawn. Dyw hi erioed wedi bod yn bwysicach i Gymru gael presenoldeb cryf yn rhyngwladol, a dwi’n gobeithio bydd y blaenoriaethau yn ein strategaeth ni yn glir. A dwi’n cymryd y pwynt mae Dai Lloyd yn ei ddweud—bod yna gymaint o bethau y gallem ni wneud, ond mae adnoddau’n brin, ac felly dyna pam mae’n rhaid inni gael ffocws, a dyna beth rŷn ni wedi ceisio ei wneud. Ac mae hwnna yn hollbwysig, yn sicr wrth inni ymgymryd â pherthynas newydd gyda’r Undeb Ewropeaidd a gwledydd eraill yn y byd. Ac er ein bod ni nawr y tu fas i’r Undeb Ewropeaidd, mae llawer iawn o ansicrwydd o hyd ynglŷn â chytundeb masnach a’r berthynas â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Mae’r strategaeth yn nodi pa drywydd rŷn ni eisiau ei ddilyn. Rŷn ni eisiau hyrwyddo’r wlad yma fel un sy’n groesawgar, ac rŷn ni eisiau trosglwyddo’r neges ein bod ni am barhau i weithio a masnachu gyda gwledydd eraill yn y byd. Dyna sy’n bwysig. Dyna pam cafodd y swydd yma ei chreu.