Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 4 Mawrth 2020.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae yna ofid mawr, wrth gwrs, am lefelau cynyddol o blant mewn gofal yng Nghymru, hynny i'r graddau y bu iddo fo ffurfio rhan fawr o adroddiad Thomas, sy'n edrych ar y system gyfiawnder yng Nghymru. Yn yr adroddiad yna, maen nhw'n tynnu sylw at y ffaith fod cyfradd y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru gryn dipyn yn uwch nag yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac mi glywsom ni rai o'r ffigurau brawychus yna gan y cynigydd. Yr hyn sy'n nodedig o'r ffigurau ydy'r cynnydd sylweddol a pharhaus yn y gyfradd yng Nghymru, a'r ffaith fod y bwlch rhwng Cymru a Lloegr yn tyfu. Mae'n werthu tynnu sylw'r Senedd at asesiad ac argymhellion adroddiad Thomas ar blant mewn gofal, ac felly dwi'n pwyso ar y Llywodraeth i ymateb yn ffurfiol i'r argymhellion hynny, ac yn enwedig i roi ystyriaeth i'r camau brys a'r argymhellion tymor byr sy'n cael eu hawgrymu.
Yn ôl gweithwyr proffesiynol yn y maes, mae yna nifer o resymau am y newid sylweddol yn yr anghenion sydd yn amlygu eu hunain yn y maes yma. Does dim gwadu, yn gefndir i hyn i gyd, wrth gwrs, mae blynyddoedd o dlodi. Mae polisïau llymder—polisïau llymder gan gynigwyr y ddadl hon heddiw—yn y cefndir yna hefyd; does dim gwadu hynny. Mae newidiadau eraill hefyd, wrth gwrs. Mae newidiadau mewn cymdeithas yn rhan o'r darlun, yn ogystal â materion newydd yn dod i sylw. Er enghraifft: county lines, ymddygiad rhywiol problemus ac anaddas, defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol, cam-drin dros y wê, ac yn y blaen. Ac yn hanesyddol, doedd rhain ddim yn ffactorau amlwg ond, wrth gwrs, maen nhw erbyn hyn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i awdurdodau lleol ledled Cymru i greu cynlluniau i leihau'r niferoedd sydd mewn gofal, ac mae'r cynlluniau hynny i'w croesawu. Maen nhw'n gallu rhoi ffocws i'r gwasanaethau, gan gydnabod y newidiadau sydd wedi digwydd hefyd. Ond, fel dwi wedi dweud o'r blaen, dydy targedau rhifyddol ddim yn ddull digon effeithiol i leihau niferoedd y plant mewn gofal. Fel rydym ni'n dweud yn ein gwelliant, mae targedau rhifyddol yn ddull arwynebol o geisio mynd i'r afael â'r broblem. Dwi yn credu bod yna dderbyniad o hynny erbyn hyn, a bod yna well ddealltwriaeth o hyn gan y Llywodraeth nag oedd ychydig fisoedd yn ôl, ac dwi yn croesawu hynny.
Mae angen atebion holistaidd: gwaith ataliol; mwy o arian i wasanaethau iechyd meddwl; a chael ffocws aml-asiantaethol yn ein hysgolion ni. Mae gostwng y nifer yn gofyn am atebion cynhwysfawr. Mae'n bosib bod angen newidiadau i ddeddfwriaeth. Mae'n sicr angen edrych ar y broses llysoedd, ac mae angen edrych ar sut mae kinship care yn wahanol yn yr Alban i sut mae o yng Nghymru. Mae angen edrych ar leoliadau gyda rhieni, lle mae plentyn yn byw adref efo rhieni ar orchymyn gofal ac efo cefnogaeth, ond, yn anffodus, mewn rhai ardaloedd, mae'r llysoedd yn gyndyn iawn o gytuno i hynny. Yn sicr, mae angen buddsoddiad mawr mewn gwasanaethau ataliol, a dydy grantiau tymor byr ddim yn ddigon i gynnal y gwasanaethau hynny. Felly, dwi'n croesawu'r hyn y mae'r adroddiad PAC ac adroddiad Thomas yn ei ddweud, sef bod angen gwneud gwelliannau system gyfan er mwyn darparu gwasanaethau amserol a chynnar i deuluoedd, fel eu bod nhw'n cael eu cefnogi i aros efo'i gilydd, efo'r nod yn y pen draw, wrth gwrs, i leihau nifer y plant yn y system ofal.
Cyn cloi, hoffwn i jest sôn am un mater arall y prynhawn yma. Buaswn i yn hoffi diolch i Gymdeithas y Plant am gysylltu efo rhai ohonom ni i sôn am y miloedd o blant Ewropeaidd sydd yn blant mewn gofal yn y Deyrnas Unedig. Rŵan, fe all newidiadau deddfwriaethol yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd greu problemau i blant mewn gofal, yn enwedig wrth iddyn nhw ddod yn oedolion, gan y bydd angen i rai ohonyn nhw gael dogfennau newydd i sicrhau eu statws. Felly, hoffwn gymryd y cyfle i holi Llywodraeth Cymru. Un, a oes gennych chi syniad faint o blant yng Nghymru sydd yn disgyn i'r categori yma? Ac yn ail: beth ydych chi'n gallu ei wneud i helpu awdurdodau lleol, sef y rhieni corfforaethol, i adnabod y plant a gwneud yn siŵr fod y ceisiadau yma'n cael eu gwneud? Mae'n ofnadwy o bwysig nad ydy'r garfan yma o blant mewn gofal yn disgyn drwy'r rhwyd. Diolch.