Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 4 Mawrth 2020.
Rwy'n gwerthfawrogi eich ymyriad, Caroline Jones, ac rwy'n derbyn eich pwynt, a hoffwn ychwanegu'n syml mai'r peth arall sy'n digwydd mewn gwirionedd yw bod plentyn sy'n derbyn gofal yn cael ei fabwysiadu yn y pen draw, mae'r cymorth hwnnw'n diflannu, ac mae'n arwain wedyn at chwalu'r trefniadau mabwysiadu'n llwyr. Gwn yn fy etholaeth fy hun fy mod wedi ymdrin â threfniadau mabwysiadu sydd wedi chwalu o leiaf hanner dwsin o weithiau, ac maent yn wirioneddol dorcalonnus i'r holl bobl sy'n gysylltiedig.