8. Dadl Plaid Cymru: Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:01 pm ar 4 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 6:01, 4 Mawrth 2020

Mi glywoch chi'r ddadl yn cael ei gwneud weithiau bod y mas critigol o ran poblogaeth ddim gennym ni yma yng Nghymru, ond ar gyfer y rhan fwyaf o gyflyrau, mae gennym ni yn sicr y boblogaeth sydd ag angen dwys i gael y gofal yn agos at gartref, a diogi a phatrymau hanesyddol gwael o ran comisiynu gofal sydd wedi ein rhoi ni yn y sefyllfa yma. Felly, dyna ddigon o esgusodion; gadewch i ni anfon neges glir iawn bod yn rhaid i hyn ddod i ben, a bod yn rhaid i ni ddatblygu gwasanaeth iechyd sydd wir yn siwtio ein hanghenion ni fel gwlad.