8. Dadl Plaid Cymru: Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:25 pm ar 4 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 6:25, 4 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am hynny. A hefyd, wrth gwrs, mae'n fy atgoffa o bwynt arall, sef pam y mae bob amser yn draffig un ffordd? Pan fyddwn eisiau manteisio ar wasanaethau, rhaid inni fynd i Loegr. Pam nad oes gennym uchelgais i ddatblygu rhai o'r arbenigeddau hynny yma yng Nghymru, fel bod pobl yn Lloegr yn dod atom ni? Nid oes raid iddo fod yn draffig un ffordd. Nawr, rwy'n derbyn fod yn rhaid iddo fod o bryd i'w gilydd, ond nid bob amser, nid bob amser. A'r cynnig hwn yw ein cyfle i anfon neges glir yn hynny o beth, a hoffwn annog pob Aelod i gefnogi cynnig Plaid Cymru.