Part of the debate – Senedd Cymru am 6:26 pm ar 4 Mawrth 2020.
Rwy'n barod i dderbyn ei bod hi'n gyfnod pleidleisio yn awr, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu. Na? Da iawn. Felly, symudwn at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar blant sy'n derbyn gofal, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 41, neb yn ymatal, 10 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig, ac mae'r holl welliannau'n methu.