Part of the debate – Senedd Cymru am 6:27 pm ar 4 Mawrth 2020.
Symudwn yn awr at y ddadl gan Blaid Cymru ar anhwylderau bwyta, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Unwaith eto, os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 43, neb yn ymatal, 8 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.