Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 10 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:40, 10 Mawrth 2020

Diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn. Mae cynnydd yn parhau mewn sawl maes gofal iechyd meddwl yn y gogledd. Hoffwn longyfarch staff yn Ysbyty Gwynedd ac mewn ysbytai cymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am gael eu cydnabod fel rhai sy'n deall dementia. Mae'r bwrdd yn rhoi blaenoriaeth i atal ac ymyrryd yn gynnar wrth roi gofal i gleifion ar draws gwasanaethau iechyd meddwl.