Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 10 Mawrth 2020.
Nid wyf i wedi gweld y llythyr hwnnw, Llywydd, felly nid wyf i mewn sefyllfa i ymateb iddo. Roeddwn i'n ymwybodol o'r llythyr gan y cyngor iechyd cymuned ar 22 Ionawr. Cyfeiriodd ymateb y Gweinidog ar y pryd at y ffaith bod hwnnw'n adroddiad y disgwyliwyd iddo gael ei ystyried gan y bwrdd, ac mai cyfrifoldeb y bwrdd, fel comisiynydd yr adroddiad hwnnw, oedd rhoi'r ystyriaeth gyntaf iddo. Fel y dywedais yn fy ateb i Llyr Gruffydd, mae'r adroddiad yn mynd i bwyllgor ansawdd a diogelwch y bwrdd ar 17 Mawrth a gwn y bydd y Gweinidog eisiau clywed gan y bwrdd y cynllun y bydd yn ei roi ar waith i ymateb i argymhellion yr adroddiad yr oedd ef ei hun wedi ei gomisiynu.