Y Llifogydd Diweddar

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 10 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:02, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Llywydd, a gaf i gydnabod yr effaith benodol iawn y mae llifogydd wedi ei chael ar ystâd ddiwydiannol Trefforest? Unwaith eto, roedd y gwyliau tri mis o ardrethi busnes y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hariannu yn rhan o'r pecyn ymateb uniongyrchol hwnnw. Byddaf yn cyfarfod ag arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf ddydd Iau yr wythnos hon i drafod y cyfnod adfer gydag ef, gan gynnwys y gwaith adfer sy'n angenrheidiol yn Nhrefforest, a byddaf wrth gwrs yn trafod ag ef pa bynnag syniadau sydd ganddo ac sydd gan bobl eraill i allu ymateb i'r anhawster parhaus y mae busnesau yn y rhan honno o Gymru yn ei wynebu.