Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 10 Mawrth 2020.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n cyflwyno'r gwelliannau'n ffurfiol yma yn fy enw i. Hoffwn, ar y dechrau, Gweinidog, ddweud bod y rhain yn welliannau treiddgar. Mae gennych y cyfle, drwy eich ymateb, i sicrhau nad oes raid inni dreulio amser yn pleidleisio o 21 i 34.
Ailgyflwynwyd y gwelliannau hyn gennym ni o Gyfnod 2. Fe'u cyflwynwyd yn flaenorol fel cymysgedd gan Helen Mary Jones a mi, ac maen nhw'n cefnogi argymhelliad 4 y Pwyllgor, oherwydd credaf fod angen cofio sylwadau'r Coleg Nyrsio Brenhinol ar y Mesur yng Nghyfnod 1, a oedd yn nodi bod y Mesur hwn yn gyfle delfrydol i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen ag egwyddorion Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 ac ehangu ei chymhwysedd. Mae'n arbennig o berthnasol i adran 25D o'r Ddeddf hon, sy'n ymwneud â sicrhau y gall byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG ymgymryd â'r darpariaethau hyn i'w galluogi i gydymffurfio â'u dyletswyddau o dan y Ddeddf hon.
Nawr, does bosib bod hyn yn cyd-fynd â'r hyn a ddywedodd y Gweinidog yng Nghyfnod 1 hefyd, sef bod y ddyletswydd ansawdd yn fwy na newid diwylliannol, ac rwy'n cytuno ag ef. I gael newid diwylliannol, dylai pob grŵp o staff clinigol fod yn rhan o gynllunio'r gweithlu'n ddigonol. Mae gwelliant 33 yn amlinellu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau rhesymol i sicrhau bod nifer digonol o staff gofal iechyd penodol, gan gynnwys nyrsys, bydwragedd ac ymarferwyr meddygol. Fel y nodais yng Nghyfnod 2, roedd yn dorcalonnus o eglur yn achos Cwm Taf fod nifer o ffactorau, gan gynnwys lefel annigonol o fydwragedd, wedi achosi'r methiant trychinebus yn y ddarpariaeth o ofal diogel a welsom yno.
Felly, credwn mai dyletswydd Llywodraeth Cymru yw sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto, ac rydym yn credu bod y Bil hwn yn gyfrwng da iawn i wneud hynny. Ni cheir adroddiadau rheolaidd am swyddi gwag ar gyfer bydwragedd, ac ni fydd adolygiad cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o wasanaethau mamolaeth yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi tan yn ddiweddarach yn yr haf. Felly, heb y data allweddol hyn ar sail barhaus, yn hytrach nag adolygiad untro, ni wyddom a oes digon o staff mamolaeth ym mhob Bwrdd Iechyd yng Nghymru.
Bwriad rhan gyntaf gwelliant 34, sef y ddyletswydd i sicrhau lefelau staffio priodol, yw mynnu bod Llywodraeth Cymru yn cadw at yr un safonau a disgwyliadau â chorff y GIG. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r Gweinidog ddangos pa gamau a gymerwyd i gyflawni hyn. Nawr, gadewch imi fod yn glir, gyda'r achosion a welwn bellach o COVID-19 yn ymddangos yng Nghymru, a chan nodi'r pwysau posibl ar staffio os bydd yr haint yn lledu, dyma'r amser i fonitro pwysau o fewn y system iechyd, fel ein bod yn gwybod a all ein byrddau iechyd lleol ddarparu'r lefelau gofal diogel hynny.
Bydd ail ran ein gwelliant ni, y ddyletswydd i gael asesiad staffio amser real ar waith, yn sicrhau y caiff lefelau staffio eu monitro'n rheolaidd fel bod cyrff y GIG a'r Gweinidogion yn ymateb i faterion wrth iddyn nhw ddigwydd ar y pryd, yn hytrach na dim ond ymateb i weithdrefnau y cytunwyd arnyn nhw fisoedd neu flynyddoedd ynghynt. Fel y nodais yng Nghyfnod 2, mae materion eisoes yn codi o ran lefelau diogel nyrsio, gan fod y Coleg Nyrsio Brenhinol yn dal i bryderu nad yw Llywodraeth Cymru na GIG Cymru yn cyhoeddi ffigurau cenedlaethol ar gyfer swyddi nyrsio gwag gan ddefnyddio diffiniad y cytunwyd arno o'r hyn yw swydd wag. Ac nid yw data blynyddol a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru ar lefelau nyrsio yn adlewyrchu'n ddigonol anghenion cleifion na'r broses o ddatblygu gwasanaethau, gan gynnwys cydafiacheddau a phoblogaeth sy'n heneiddio.
Bydd trydedd ran a rhan olaf y gwelliant, y ddyletswydd i roi proses uwchgyfeirio risg ar waith, yn rhoi i bob aelod staff fecanwaith clir ar gyfer codi pryderon os ydynt yn gweithio mewn lleoliadau lle teimlant nad yw'r lefelau staffio sydd ar gael yn ddiogel.
Yng Nghyfnod 2, nododd y Gweinidog na fyddai'n cefnogi'r gwelliannau hyn—felly, rwy'n deall ar hyn o bryd—oherwydd nid y Mesur fyddai'r dull priodol o wneud newid o'r maint hwn, a byddai cymhwyso unrhyw egwyddorion o ddeddf lefelau staff nyrsio i bob grŵp staffio clinigol arall yng Nghymru, heb fod yr un faint o ystyriaeth a chraffu, yn amhriodol ac anghyson. Eto, fel yr ydym wedi dweud mor aml o'r blaen am ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, mae darpariaethau'r Bil ar ddyletswydd ansawdd yn rhy eang. Felly mae perygl iddo fod yn nod yn hytrach na dyletswydd, heb fecanweithiau penodol i fyrddau iechyd ymgymryd â'r camau angenrheidiol i sicrhau y caiff ei gynnal a'i fonitro fel mater o drefn.
Rwyf hefyd, Gweinidog, yn amau eich pryderon ynghylch yr ystyriaethau ariannol. Bydd cael lefelau staffio priodol ar waith yn costio llai o arian i gyrff y GIG a Llywodraeth Cymru yn y tymor hir oherwydd salwch ac afiechydon sy'n ymwneud â straen, yn ogystal â gwell iechyd meddwl i'r holl staff. Mae'r gwelliannau hefyd yn cydnabod nad yw'r pwyslais ar gyrff y GIG yn unig, a bod gan Lywodraeth Cymru ran i'w chwarae yn nyfodol hirdymor lefelau staffio cyrff y GIG.
Rwy'n nodi'r pwyntiau a godwyd gennych yng Nghyfnod 2 yn eich llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar 26 Chwefror. Dywedasoch fod Atodlen 3 i'r Mesur yn diwygio is-adran 47 Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 i'w gwneud yn ofynnol i gyrff y GIG ystyried y safonau gofal iechyd. Fodd bynnag, fel yr amlinellir yn fy ngwelliannau yng ngrŵp 7, nid yw'r safonau hyn wedi'u diweddaru ers 2015. Ers hynny rydym wedi cael poblogaeth sy'n heneiddio'n gyflym, yn ogystal â datblygiadau mewn technoleg sy'n golygu eu bod bellach ar eu hôl hi. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog amlinellu amserlen ar gyfer y safonau diwygiedig, yn ogystal â rhoi ar glawr ei ymrwymiad i fecanwaith clir i adolygu'r safonau hyn yn rheolaidd.
Gweinidog, pe baech yn barod i ateb y cwestiynau hyn am y safonau iechyd a gofal, yn ogystal ag ymrwymo i gefnogi gwelliannau 36 a 37, byddwn yn fodlon tynnu'r gwelliannau hyn yn ôl.