Grŵp 1: Dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd — cynllunio’r gweithlu a lefelau staffio priodol (Gwelliannau 21, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 34)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 10 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:19, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Llywydd. Rwyf am ddiolch, ar y dechrau, i'r bobl sydd wedi gweithio ar y Bil hwn hyd yma, y gwaith craffu yr ydym wedi'i wneud drwy broses y pwyllgor, yn ogystal â swyddogion a phawb a fu'n ymwneud â chyfnodau'r Papur Gwyn ac ymgynghori ehangach. Bydd gennym amrywiol bwyntiau o anghytundeb, a rhai pwyntiau o gytundeb, yn ystod hynt y noson hon. Fydda i ddim yn ymateb i rai o'r sylwadau ehangach am y trefniadau yn y dyfodol i ddisodli'r cynghorau iechyd cymuned; byddwn yn dod at y grŵp hwnnw yn nes ymlaen yn y Bil.

O ran staffio, wrth gwrs, mae'r Llywodraeth hon yn cefnogi'r egwyddor o gael digon o staff yn ein gwasanaeth iechyd: cael y staff iawn yn y lle iawn gyda'r sgiliau iawn.

Rwyf eisiau ymdrin â'r gwelliannau yn y grŵp hwn mewn dwy ran: yn gyntaf, a ddylai'r diffiniad o ansawdd gynnwys lefelau staffio ei hun yn benodol, ac, yn ail, diwygio'r Bil i gynnwys dyletswydd staffio.

Rwyf eisiau bod yn glir: mae'r ddyletswydd ansawdd, fel y'i drafftiwyd, yn fwriadol eang. Mae'n crisialu pob agwedd ar y gwasanaeth iechyd ac mae'n ymwneud â phopeth y mae'r gwasanaeth iechyd yn gyfrifol amdano. Mae ystyriaethau'r gweithlu yn amlwg yn alluogydd allweddol i gyflawni'r ddyletswydd ansawdd. Ni all yr un corff sicrhau ei fod yn darparu gwasanaethau sydd, er enghraifft, yn ddiogel ac yn effeithiol ac sy'n rhoi profiad da oni bai ei fod wedi ystyried y mathau a'r niferoedd o staff sydd eu hangen i gyflawni hynny.

Ac rydym yn fwriadol yn defnyddio'r diffiniad o ansawdd a gydnabyddir yn rhyngwladol a gyflwynwyd gan y cyn Sefydliad Meddygaeth yn yr Unol Daleithiau, a'r gŵr a aeth yn ei flaen i arwain y sefydliad hwnnw oedd Don Berwick, a gymerodd ran fel un o'n harbenigwyr rhyngwladol yn yr adolygiad Seneddol wedi'i gymeradwyo ar draws y pleidiau. Fel y dywedais, mae cael y staff iawn yn y lle iawn gyda'r sgiliau iawn, i bob pwrpas, yn adnodd sydd ei angen i sicrhau gwelliannau mewn ansawdd. Nid yw staffio ynddo'i hun yn golygu ansawdd. Mae'r gweithlu yn alluogwr allweddol a'r mwyaf arwyddocaol o ran gallu sicrhau gwelliannau mewn ansawdd.

Nawr, fel y dywedwyd, mae Atodlen 3 y Bil yn cysylltu'r ddyletswydd ansawdd â'r safonau iechyd a gofal, sydd â thema gyfan, gyda manylion ar staff ac adnoddau. Felly, bydd angen i gyrff y GIG ddangos eu bod wedi rhoi ystyriaeth lawn i faterion y gweithlu wrth gyflawni'r ddyletswydd ansawdd.

Fel y nodais o'r blaen, ac yn enwedig yn y trafodaethau defnyddiol ac adeiladol a gawsom ar ôl cyfnod 2 gyda phleidiau eraill, mae'r safonau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd, ac, mewn gwirionedd, mae adolygiad ar fin digwydd o fewn y flwyddyn hon. Yn amlwg, bydd hynt y Bil hwn neu fel arall yn helpu i lywio'r adolygiad o'r safonau hynny a'r fframwaith yr ydym yn disgwyl i bobl ymateb iddo.

Bydd y canllawiau statudol yn ymdrin â'r modd y cymhwysir y ddyletswydd ar draws holl swyddogaethau'r gwasanaeth iechyd, a bydd yn ddiamau yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynllunio'r gweithlu, ynghyd â'r gofyniad i ystyried sicrhau gwelliannau drwy feysydd fel atal, gwella iechyd, a chymryd camau i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb mewn canlyniadau.

Rwy'n falch o gadarnhau bod y Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas Feddygol Prydain wedi cynnig cydweithio â ni i ddatblygu'r canllawiau, ac wrth gwrs rwy'n croesawu'r cynnig hwnnw'n fawr. Felly, yn fy marn i, nid oes angen y gwelliannau ar lefelau staffio sy'n cael eu cynnwys yn y diffiniad o ansawdd.

Gan droi at y gwelliannau sy'n ceisio ymestyn y ddyletswydd staffio i Weinidogion Cymru, rhaid imi ddweud ar y dechrau fy mod yn gadarn o'r farn nad yw newid o'r maint hwn drwy wneud gwelliannau i Fil yn ffordd briodol o fynd ati. Roedd Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 yn elwa ar waith cynllunio sylweddol ac ystyriaethau o ran y goblygiadau ariannol, a bu'n destun craffu llawn y byddem i gyd yn ei ddisgwyl ar gyfer darn o ddeddfwriaeth mor nodedig. Ac roedd yn bwysig sicrhau ei fod yn cael ei wneud yn y ffordd gywir. Byddai'n gwbl amhriodol cymhwyso unrhyw un o egwyddorion y Ddeddf honno i bob grŵp arall o staff clinigol yng Nghymru a hynny heb yr un gofal, ymgynghori, ystyried a chraffu.

Cydnabu'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn ei dystiolaeth ei hun i'r Pwyllgor Iechyd nad yw newid o'r maint hwn yn rhywbeth y mae'n ei gredu sy'n addas i'w gyflawni drwy welliant. O ystyried nid yn unig y prif fesurau, ond hefyd y mesurau proses fel y'u nodir yn y gwelliannau manwl iawn ar gyfer dulliau adrodd, byddai'n rhaid ichi wneud cryn dipyn o waith ariannol ar y goblygiadau i'r gweithlu yn ogystal â nodi faint o staff sydd ar gael a bod ganddynt yr offer i gyfrifo staff—y lefelau priodol o staff—mewn gwahanol leoliadau.

Yn achos mewnosod adran 25AA, fel y nodir yn y gwelliant a gyflwynwyd gan Angela Burns, byddai'n amhriodol ac yn anymarferol pennu dyletswydd o'r fath ar Weinidogion Cymru pan mai ein byrddau iechyd a'n ymddiriedolaethau sydd â'r cyfrifoldeb gweithredol hwnnw dros ystyriaethau staffio. Yn ei hanfod, mae'r gwelliant arfaethedig yn estyniad i adran 25A o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i'r holl staff clinigol, ac mae'n amlwg iawn yn ddyletswydd ar fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau.

Mae'n bwysig cydnabod bod gan gyrff y GIG drefniadau ar waith eisoes i sicrhau bod rheolwyr ac uwch benderfynwyr yn cael gwybod am brinder staff pan fydd hyn yn debygol o beri risg i ddiogelwch cleifion. Mae'r trefniadau hyn yn cynnwys penderfyniadau i'w gwneud 'yn ystod oriau gwaith' a 'thu allan i oriau gwaith arferol', ac mae hynny'n cynnwys trefniadau i hysbysu Aelodau'r Bwrdd Gweithredol lle bo hynny'n briodol, er mwyn iddynt wneud dewisiadau.

Felly, ni allaf gefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd yn y maes hwn, a gofynnaf i'r Aelodau eu gwrthwynebu.