Grŵp 3: Dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd — pŵer i ddyroddi canllawiau (Gwelliannau 16, 17, 18)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:46 pm ar 10 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:46, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Llywydd. Yn dilyn ystyriaethau yng Nghyfnod 2, rwyf wedi cael trafodaethau adeiladol gydag aelodau'r gwrthbleidiau ac rwy'n falch ein bod wedi gallu cyrraedd sefyllfa gyffredin gydag Angela Burns ar hyn. Drwy bennu yn y canllawiau statudol y dystiolaeth sydd i'w defnyddio a'r ffordd y mae tystiolaeth o'r fath wedi cael ei hasesu, bydd hynny'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff y GIG adrodd yn agored ac yn dryloyw ar y camau y maen nhw'n eu cymryd i sicrhau gwelliannau mewn canlyniadau ansawdd. Yn bwysig iawn, wrth gynnal yr asesiad hwnnw, bydd yn ofynnol hefyd i gyrff y GIG ddangos tystiolaeth o sut y maen nhw'n ystyried y safonau iechyd a gofal a drafodwyd gennym yn y ddau grŵp cyntaf wrth gyflawni eu dyletswydd ansawdd. Mae hynny'n golygu y bydd yn rhaid i gyrff y GIG ystyried yr holl faterion a nodir yn y safonau iechyd a gofal, sy'n cynnwys materion sy'n ymwneud â'r gweithlu, gwella iechyd y boblogaeth a thegwch. Caiff hynny ei egluro yn y canllawiau statudol. Mae yna bwynt yma ynghylch y canllawiau statudol yr ydym yn ymrwymo i'w cynhyrchu ar bob un o ardaloedd y Bil: rydym eisiau gweld hynny'n cael ei gyd-gynhyrchu yn y ffordd yr ydym yn ei gyflawni, yn hytrach na chael ei gyflawni gan y Llywodraeth yn unig. Rwyf felly'n fodlon cefnogi'r holl welliannau yn y grŵp hwn yn enw Angela Burns.