Grŵp 4: Dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd — diffyg cydymffurfio (Gwelliant 35)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:03 pm ar 10 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 6:03, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar iawn ichi. A ydych yn cytuno â mi, os ydym yn parhau i basio deddfau yn y fan hon lle nad oes goblygiadau amlwg ar wyneb y gyfraith i'r bobl sy'n torri'r gyfraith, y byddwn mewn perygl o ddwyn anfri ar yr holl sefydliad democrataidd? Rwyf i wedi cael llond bol ar bobl yn gofyn imi bleidleisio dros ddeddfwriaeth pan nad oes dim yn digwydd i rywun sy'n torri'r deddfau hynny.