Grŵp 8: Dyletswydd gonestrwydd — diffyg cydymffurfio (Gwelliannau 39, 73, 74)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:44 pm ar 10 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 6:44, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwyf wedi gwrando ar y rhesymeg dros osod y gwelliannau a gyflwynwyd yn y grŵp hwn, yng Nghyfnod 2 ac eto heddiw. O ran gwelliant 39, nad ydw i, am resymau y byddaf yn eu hegluro eto, yn cytuno ag ef, mae'r diben a'r effaith yn ddigon clir: mae unrhyw fethiant gan un o gyrff y GIG i gydymffurfio â rheoliadau dyletswydd gonestrwydd, neu â'r darpariaethau yn adrannau 5 i 10 yn y Bil, yn gorfod cael eu trin o dan drefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd GIG Cymru. Yn awr, cydnabyddir bod y trefniadau hynny eisoes ar waith. Ond mae pwynt technegol, fodd bynnag, ynglŷn â'r ffaith bod y trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd a'r defnydd a wneir ohonyn nhw mewn deddfwriaeth sylfaenol yn golygu bod cymysgedd o fesurau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol ar gael i Weinidogion Cymru.

Fodd bynnag, mae'r rheini, fel y dywedaf, yn gweithio o fewn fframwaith llywodraethu ac atebolrwydd ehangach o fewn y GIG ar lefel corff a system unigol, drwy bwyllgorau ansawdd a diogelwch, ar fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, cyfarfodydd ansawdd a chyflawni, a chyd-gyfarfodydd gweithredol. Mae'r rheini i gyd yn gyfleoedd ar gyfer craffu a gweithredu a dysgu priodol ac amserol.

Pe bai pryderon difrifol yn deillio o'r mecanweithiau hynny, bydden nhw, lle bo angen, yn llywio unrhyw drafodaethau a chamau gweithredu posib o dan ein trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd presennol. Fodd bynnag, rwy'n disgwyl y dylid manteisio ar bob cyfle i fynd i'r afael â phryderon wrth iddyn nhw godi ac y dylai corff gymryd camau unioni ar unwaith. Dydw i ddim yn credu bod angen cynnwys darpariaeth ar wyneb y Bil sydd yn ei hanfod yn dweud bod yn rhaid ymdrin â methiannau gan gorff y GIG i gydymffurfio â'r ddyletswydd o dan y mesurau sydd eisoes yn bodoli.

Rwyf wedi gwrando eto ar bwrpas ac effaith arfaethedig gwelliannau 73 a 74 a'u gofyniad i Weinidogion Cymru nodi'r weithdrefn y mae'n rhaid i gyrff y GIG ei dilyn mewn rheoliadau os ydyn nhw'n methu â dilyn y weithdrefn dyletswydd gonestrwydd neu gydymffurfio â'r adroddiad a threfniadau eraill a nodir yn adrannau 5 i 10 o'r Bil. Felly, mae hynny'n golygu y byddai gweithdrefn ar gyfer methiant i gydymffurfio â'r weithdrefn, a dyletswydd i wneud datganiadau a chyhoeddi adroddiad lle mae'r GIG wedi methu â chydymffurfio â'u gofynion adrodd. Nawr, mae hynny'n swnio'n eithaf biwrocrataidd i mi ac mae'n ychwanegu haenau diangen o gymhlethdod at y gwaith o weithredu'r ddyletswydd, ac nid yw hynny'n ddymunol. Mae gennyf bryderon gwirioneddol hefyd ynghylch sut y byddai hyn yn gweithio, neu'n hytrach na fyddai'n gweithio, yn ymarferol.

Gallai'r gofyniad yn is-adran (4) o welliant 73 i Weinidogion Cymru wneud datganiad ar achosion difrifol o dorri'r weithdrefn dyletswydd gonestrwydd arwain at ddatgelu gwybodaeth a fyddai'n gallu adnabod cleifion. Nid yw'r diffiniad o doriad difrifol yn glir, ac yn sicr nid yw wedi'i ddiffinio yn y gwelliant. Unwaith eto, nid oes angen ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyflwyno adroddiad ar nifer yr achosion o dorri'r ddyletswydd gonestrwydd a gafodd eu hadrodd iddyn nhw. O ran monitro'r gwaith o gydymffurfio â'r ddyletswydd, disgwyliaf i ddiweddariadau rheolaidd gael eu darparu yng nghyfarfodydd y pwyllgor ansawdd a diogelwch cyhoeddus fel y gall aelodau annibynnol, yn y lle cyntaf, ofyn am sicrwydd bod y ddyletswydd yn cael ei chyflawni a bod dysgu'n cael ei ddatblygu.

Nawr, caiff hynny ei drafod mewn cyfarfodydd o'r grŵp ansawdd a chyflawni rhwng Llywodraeth Cymru, cyrff unigol, cyfarfodydd tîm gweithredol ar y cyd, ac wrth gwrs rhwng prif weithredwr GIG Cymru a phrif weithredwyr byrddau ac ymddiriedolaethau, yn ogystal â'm harfarniadau gyda chadeiryddion ac is-gadeiryddion. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn monitro cynnwys yr adroddiadau hynny ynghyd â ffynonellau eraill o wybodaeth i'n helpu ni i geisio cymhwyso'r ddyletswydd, er enghraifft, i ystyried adroddiadau difrifol am ddigwyddiadau. Bydd Arolygiaeth Iechyd Cymru hefyd yn ystyried yr adroddiadau fel rhan o'u hadolygiadau ehangach o wasanaethau. Pan ddaw pryderon i'r amlwg drwy'r mecanweithiau hyn, bydden nhw yn sicr yn llywio'r trafodaethau tairochrog ac unrhyw gyngor dilynol i Weinidogion ar uwchgyfeirio ac ymyrryd.

Ond mae angen imi ddychwelyd at bwynt a wnaed yng Nghyfnod 2 ac yn y ddau gyfraniad blaenorol: prif fwriad y ddyletswydd yw hyrwyddo ethos o ddysgu a gwella a hyrwyddo diwylliant agored a gonest i fod yn eiddo i'r sefydliad ar lefel sefydliadol. Pan wneir sylwadau ynghylch sut mae gweithred o anonestrwydd neu ddweud celwydd eisoes wedi digwydd os yw'r ddyletswydd yn cael ei thorri, nid wyf yn credu bod hynny'n gosod y cywair cywir o gwbl. Byddai modd i amryfusedd neu gamgymeriad arwain at dorri'r ddyletswydd, nid gweithred o anonestrwydd bwriadol, o reidrwydd. Ac mae hynny'n mynd yn gwbl groes i'n nod ni o feithrin y diwylliant agored hwnnw, lle gall pobl godi eu llaw pan aiff rhywbeth o'i le, yn hytrach na cheisio dweud, 'Sut y galla i esbonio hyn neu osgoi cyfrifoldeb?'

Yn fy marn i, mae'r dull sy'n cael ei annog yn y gwelliannau hyn yn un hollol anghywir. A sut bynnag, mae'r pwerau i ymyrryd eisoes yn bodoli. Dydw i ddim yn credu y byddai'r gwelliannau gor-fiwrocrataidd hyn yn hwyluso creu'r ethos agored a gonest yr ydym ni'n anelu at ei greu. Yr hyn sy'n peri mwy o bryder, er hynny, yw y gallen nhw mewn gwirionedd arwain at ddiwylliant llawer mwy cosbol ac ofn adrodd. Gofynnaf i'r Aelodau wrthod y gwelliannau yn y grŵp hwn.