Part of the debate – Senedd Cymru am 8:41 pm ar 10 Mawrth 2020.
Diolch, Llywydd. Mae'r holl welliannau yn y grŵp hwn yn ymwneud â sylwadau sy'n cael eu gwneud gan gorff llais y dinesydd a'r ymateb y dylid ei roi iddyn nhw, ond, wrth gwrs, mae gwahanol bosibiliadau'n deillio ohonyn nhw. A hoffwn ei gwneud yn eglur unwaith eto, er gwaethaf yr iaith sy'n cael ei defnyddio, nid yw gwrthod cytuno i welliannau 42 na 77 yn enghreifftiau na'n dystiolaeth o anonestrwydd, nac yn ddymuniad bwriadol ar ran y Llywodraeth i ddirymu'r mudiad Cynghorau Iechyd Cymuned presennol a'u disodli nhw gyda chorff heb ddannedd. Ceir lle i anghytuno'n onest, fel yr wyf i'n cydnabod o fewn fy mhlaid fy hun, ac ar draws y Siambr hon hefyd. Ac rydym ni wedi drafftio'r Bil i alluogi'r corff llais y dinesydd i wneud sylwadau i gyrff y GIG ac i awdurdodau lleol, fel sefydliadau sy'n darparu neu'n comisiynu'r mwyafrif llethol o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Fel y cyfryw, nhw sydd yn y sefyllfa orau i gymryd trosolwg o'r gwasanaethau yn eu hardaloedd, a bod yn fwyaf effeithiol o ran gwneud newidiadau grymus ar lawr gwlad, ac ymateb i'r materion sy'n gysylltiedig â'u sylwadau.
Mae'r ddau welliant yn y grŵp hwn yn ceisio ychwanegu Gweinidogion Cymru at y rhestr o gyrff y caiff y corff llais y dinesydd wneud sylwadau iddyn nhw. Rwyf i wedi bod yn eglur nad oes dim i atal y corff llais y dinesydd rhag gohebu â Gweinidogion Cymru, ac, fel gydag unrhyw randdeiliaid allweddol, nid ydym ni'n ystyried barn y corff hwnnw yn unig wrth arfer ein swyddogaethau perthnasol, gan gynnwys polisi a deddfwriaeth, ond rydym ni eisoes yn sicrhau ein bod ni'n ymateb i bobl sy'n ysgrifennu at Weinidogion Cymru. Mae unrhyw a phob corff a noddir gan Lywodraeth Cymru sy'n ysgrifennu at Weinidogion yn cael ymateb, a byddai hynny'n union yr un fath o ran y ddeialog barhaus arferol gyda Gweinidogion Cymru a'r corff llais y dinesydd newydd.
Mae gwelliant 41 hefyd yn cyfeirio at sylwadau i'w gwneud i unrhyw berson neu gorff arall sy'n gwneud penderfyniadau neu'n arfer swyddogaethau ar ran awdurdod lleol neu gorff GIG. Ac nid argymhelliad gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon oedd hwnnw, wrth gwrs. Er hynny, mae'n anhygoel o eang. Gallai fod yn arbennig o feichus i ddarparwyr gwasanaethau cymdeithasol llai o faint, yn enwedig o ystyried y gofyniad yng ngwelliant 42 i ddarparwyr gyhoeddi eu hymateb ar eu gwefan—nid oes gan bob darparwr wefannau mewn gwirionedd. Ond rwy'n pryderu'n wirioneddol am y gofyniad i gyhoeddi'r holl ymatebion.
Mae gallu'r corff i wneud sylwadau yn eang iawn yn fwriadol. Fodd bynnag, mae hyn yn golygu efallai na fydd yn briodol mewn rhai achosion i gyhoeddi ymatebion. Efallai na fydd y person neu'r bobl y mae'r corff llais y dinesydd yn gwneud sylwadau ar eu rhan eisiau i sylwadau gael eu cyhoeddi. Fodd bynnag, nid yw'r gwelliant y gofynnir i Aelodau bleidleisio drosto yn rhoi dim hyblygrwydd o gwbl o ran gwelliannau 42 a 77, ac mae'r ffordd y mae'r gwelliannau wedi eu drafftio yn wirioneddol bwysig. Nid yw'n dweud 'y cânt' gyhoeddi, neu 'y dylent ystyried' cyhoeddi; mae'r gwelliannau'n ei gwneud yn eglur iawn, yn y naill fersiwn neu'r llall, bod yn 'rhaid' iddyn nhw gyhoeddi eu hymateb ar eu gwefan. Ac ni allwch chi ddiwygio'r gofyniad statudol eglur a diamwys hwnnw mewn canllawiau.
Mae neilltuo'r dyletswyddau hyn i ddarparwyr gwasanaeth yn mynd yn groes i'r dull a ddilynir o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 y mae'r lle hwn eisoes wedi ei phasio—i osod dyletswyddau cymesur ar ddarparwyr gwasanaeth, gan eu grymuso i ddod o hyd i'r ffyrdd gorau o fodloni gofynion rheoliadol. Mae'n briodol bod sylwadau'n cael eu gwneud i'r cyrff sydd â chyfrifoldeb statudol i'r cyhoedd am ddarparu gofal iechyd a chymdeithasol—awdurdodau lleol a'n GIG. A dyna mae'r Bil yn darparu ar ei gyfer. Nid wyf i'n cytuno bod angen darpariaeth bellach ar hyn—bydd gan y corff llais y dinesydd ddigon o gyfle i lunio polisi cenedlaethol a thynnu sylw at arfer gorau, fel y mae'r corff yn cael ei gynllunio i'w wneud.
O ran y gofyniad am ymateb i sylwadau sy'n nodi i ba raddau y mae'r derbynnydd yn derbyn y sylw, ac unrhyw gamau y mae'r derbynnydd yn bwriadu eu cymryd, mae hwnnw'n fformiwläig ac o bosibl yn annog dull gwrthwynebol yn hytrach na chydweithredol. Ac nid yw'n cymryd i ystyriaeth y ffaith y gallai fod yn fwy priodol—yng nghyd-destun amgylchiadau penodol y math o sylwadau sy'n cael eu gwneud—i ymdrin â materion yn rhan o drafodaeth sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, yn hytrach na gohebiaeth ysgrifenedig ffurfiol, trwy broses ragnodedig, fel y byddai gwelliannau 42 a 77 yn ei gwneud yn ofynnol.
Mae gwelliant y Llywodraeth yn y grŵp hwn yn ceisio datrys yr hyn a ddeallwn yw'r prif bryder a'r dymuniad: i gyrff y GIG ac awdurdodau lleol gael system eglur ar gyfer ymdrin â sylwadau a dderbynnir gan y corff llais y dinesydd sy'n gymesur â'r materion a godir yn y sylwadau; i'r corff llais y dinesydd gael gwybod am hynt y gwaith o ymdrin â'i sylwadau; ac, yn hollbwysig, i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei hysbysu am ganlyniad eu sylwadau. Bydd gwelliant y Llywodraeth yn sicrhau—trwy ganllawiau statudol—bod gan gyrff y GIG ac awdurdodau lleol y weithdrefn gymesur a gweithredol honno ar waith ar gyfer ystyried sylwadau ac ymateb iddyn nhw. Ac rwy'n credu y bydd hynny'n ffafriol i berthynas waith barhaus rhwng y partïon, ac yn golygu bod y corff yn cael ei hysbysu am ganlyniad terfynol gwneud unrhyw sylwadau. A gofynnaf i'r Aelodau gefnogi gwelliant y Llywodraeth yn y grŵp hwn.