Grŵp 14: Corff Llais y Dinesydd — sylwadau i gyrff Cyhoeddus (Gwelliannau 41, 76, 1, 42, 77)

Part of the debate – Senedd Cymru am 8:47 pm ar 10 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 8:47, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Mae dipyn o broblem yn y fan yma, mewn gwirionedd, onid oes? Wnes i ddim ryw eistedd i lawr a llunio'r gwelliannau hyn yn y tywyllwch un noson; roedd gen i dîm o gyfreithwyr a weithiodd arnyn nhw. Felly pan eich bod chi'n sefyll yn y fan yna ac yn dweud, fel rydych chi wedi ei wneud unwaith neu ddwy drwy gydol hyn, 'Nid yw hwn wedi ei ysgrifennu'n dda iawn, nid dyma'r derminoleg gywir, mae hyn yn dweud hyn, hyn neu hynna', rwyf i eisiau ei gwneud yn eglur iawn fy mod innau hefyd—nid eich cyfreithwyr chi yn unig sydd yn yr ystafell, mae ein cyfreithwyr ni yn yr ystafell. Ac maen nhw'n eglur iawn bod y gwelliannau hyn yn caniatáu'r elfen honno o ddisgresiwn. Maen nhw'n eglur iawn y gellid cyhoeddi'r canllawiau ynghylch sut y byddai unigolion rhestredig yn ymateb. Felly nid oes rhaid i chi roi'r union hyn sy'n cael ei ddweud yn y parth cyhoeddus.