Grŵp 16: Corff Llais y Dinesydd — dyletswydd i gyflenwi gwybodaeth (Gwelliant 2)

Part of the debate – Senedd Cymru am 9:06 pm ar 10 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 9:06, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Gan fod hyn yn cryfhau'r Bil, byddwn ni yn ei gefnogi yn anfoddog, ond fe hoffem ni wneud y pwynt nad ydym ni, mewn gwirionedd, yn dymuno i gyrff y GIG neu awdurdodau lleol wrthod darparu gwybodaeth yn y lle cyntaf. Hoffem ni yn fawr iawn weld mwy na gofyniad i ddarparu rhesymau ysgrifenedig dros wrthod gwybodaeth, ond yr oedd yn rhaid i gorff llais y dinesydd, mae'n debyg, fod â'r gallu i herio rhesymau o'r fath.