Part of the debate – Senedd Cymru am 9:26 pm ar 10 Mawrth 2020.
Diolch i'r Gweinidog am dderbyn yr ymyriad. Nid wyf i'n dymuno ymestyn y trafodion, ond hwn oedd y mater yr oeddwn i'n poeni mwyaf yn ei gylch, yn dilyn trafodaethau gyda Chyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan. Mae'n rhaid i mi ddweud, yn dilyn y trafodaethau gyda'r Llywodraeth am yr union faterion y mae ef newydd sôn amdanyn nhw, a gyda'r cyngor iechyd cymuned, rwy'n hapus, yn dilyn y trafodaethau hynny, yn enwedig gyda Chyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan heddiw, i ddilyn cyngor pleidleisio y Llywodraeth ar y mater hwn.