Grŵp 20: Corff Llais y Dinesydd — cymhwyso safonau’r Gymraeg (Gwelliant 15)

Part of the debate – Senedd Cymru am 9:46 pm ar 10 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 9:46, 10 Mawrth 2020

Dwi'n falch iawn o fod yn cefnogi'r gwelliant yma gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi cael ei gyflwyno wedi cydweithrediad rhwng y Llywodraeth a ninnau. Y canlyniad ydy dod â'r corff llais y dinesydd newydd o dan sgôp rheoliadau, a sicrhau bod Comisiynydd y Gymraeg yn gallu rhoi rhybuddion cydymffurfiaeth. Felly, dwi'n falch bod y Llywodraeth wedi symud ar hwn achos, hebddo fo, mi fyddai'n golygu y byddai'r corff llais y dinesydd newydd yn cychwyn ar bwynt gwannach o ran sut mae'n delio â'r iaith Gymraeg na'r cyrff y mae o'n cymryd eu lle nhw. Ond dwi'n gwneud y pwynt nad ydy o ddim yn ymwneud â'r angen i gryfhau'r ddarpariaeth o ofal drwy gyfrwng y Gymraeg o fewn iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n fater gwahanol iawn.