Pwynt o Drefn

Part of the debate – Senedd Cymru am 9:48 pm ar 10 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 9:48, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Bydd Aelodau wedi cael gwybod, yn ystod y ddadl hon ar Gyfnod 3 heno, bod cadarnhad o gynnydd sylweddol yn yr achosion o COVID-19 yng Nghymru: canfuwyd saith heintiad newydd ar ôl olrhain cyswllt parthed y dyn o Gastell-nedd Port Talbot a brofodd yn bositif dros y penwythnos; dau o drigolion sir Gaerfyrddin a ddychwelodd o'r Eidal. Nawr, o dan Reol Sefydlog 12.16 sy'n ymwneud â busnes y gellir ei amserlennu heb rybudd, a gaf i ofyn i'r Gweinidog Iechyd wneud datganiad, efallai ar ddechrau'r cyfarfod llawn yfory? Rwy'n credu bod hwn yn ddatblygiad arwyddocaol, ac mae angen i ni drefnu lle iddo ar yr agenda cyn gynted â phosibl—o gofio nad yw'r Gweinidog, am resymau amlwg, wedi gallu paratoi yn ystod yr oriau diwethaf i roi datganiad heno.