Part of the debate – Senedd Cymru am 9:49 pm ar 10 Mawrth 2020.
Mae'n werth myfyrio efallai ar y ffaith bod cwestiynau i mi fy hun wedi'u symud i eitem gyntaf busnes y Cynulliad brynhawn yfory. Mae hynny er mwyn sicrhau y gallaf ateb cwestiynau i Aelodau, ond hefyd, y bydd gennyf amser i fynd i'r alwad COBRA sy'n digwydd brynhawn yfory gyda llywodraethau eraill ledled y Deyrnas Unedig. Rwy'n siŵr y bydd gennym ddigon o gyfle i ateb cwestiynau ar coronafeirws—mae yng nghwestiwn 2 ar y papur trefn—yn ogystal â'r hyn y gallai'r llefarwyr ddymuno ei ofyn yn ystod eu cwestiynau eu hunain.