Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 11 Mawrth 2020.
Diolch. Ar hyn o bryd rydym yn nodi achosion o'r firws, yn ynysu cleifion, ac yn olrhain unrhyw un sydd wedi bod mewn cysylltiad â hwy. Os yw’r clefyd yn sefydlu yn y DU, bydd angen i ni ystyried mesurau pellach i ohirio cyflymder a maint ei ledaeniad.