Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 11 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:29, 11 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, er mwyn gwella gwasanaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae'n hanfodol fod gwasanaethau hanfodol mor hygyrch â phosibl i bobl leol, ac mae hynny'n cynnwys lleoli gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg. Felly, a allwch ddweud wrthym pa drafodaethau a gawsoch gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynglŷn â darparu gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg, yn ogystal ag unrhyw drafodaethau a gawsoch ynghylch creu ysbyty newydd yng ngorllewin Cymru, gan fod y bobl rwy'n eu cynrychioli eisiau gweld gwasanaethau hanfodol fel yr adran damweiniau ac achosion brys yn cael eu cadw yn Ysbyty Llwynhelyg?