Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 11 Mawrth 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig, a gyflwynwyd yn fy enw i y prynhawn yma. Hoffwn gofnodi fy niolch i'r holl Aelodau sydd wedi cefnogi’r ddadl hon, ac yn arbennig i Angela Burns, a fydd yn cloi’r ddadl y prynhawn yma.
Mae Cancer Research UK wedi nodi y bydd un o bob dau o bobl yn y DU a anwyd ar ôl 1960 yn cael diagnosis o ryw fath o ganser yn ystod eu hoes. Ar hyn o bryd, mae oddeutu 19,000 o bobl yn cael diagnosis o ganser bob blwyddyn yng Nghymru. Mae pob un ohonom yn adnabod rhywun sydd wedi cael diagnosis o ganser. Bydd rhai yn goroesi canser, ond yn anffodus, ceir eraill nad ydynt gyda ni mwyach, ar ôl brwydro’n gadarn a chydag urddas yn erbyn canser.
Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd ystyrlon mewn cyfraddau goroesi, triniaeth a diagnosis, gydag ychydig dros hanner y bobl sydd wedi cael diagnosis o ganser yn byw am 10 mlynedd neu fwy, o gymharu ag un o bob pedwar ym 1970. Fodd bynnag, mae Cymru ar ei hôl hi’n gyson o gymharu â gwledydd tebyg mewn perthynas â chyfraddau goroesi canser.
Mae cydberthynas uniongyrchol rhwng y gobaith o oroesi a chamau diagnosis mewn perthynas â chyfraddau goroesi 1 flwyddyn a phum mlynedd. Mae cyfraddau goroesi canser yn gostwng pan nad oes diagnosis cynnar ar gael. Ac mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei gofio: mae cyfraddau goroesi canser yn gostwng pan nad ydym yn cael diagnosis cynnar.
Yng Nghymru, rydym wedi gweld cyfraddau goroesi un flwyddyn yn cynyddu, ynghyd â chyfraddau goroesi pum mlynedd. Mae'n amlwg fod diagnosis cynnar yn hollbwysig. Daw hyn yn fwy amlwg byth wrth edrych ar ganserau sy'n anos gwneud diagnosis ohonynt, fel canser yr ysgyfaint neu ganser y pancreas. Ychydig iawn o symptomau cam 1 os o gwbl sydd i ganserau fel hyn, neu symptomau sy'n amhenodol. Mae'n bwysig felly fod unrhyw strategaeth ar gyfer trin canser yn cynnwys pwyslais cryf ar ddiagnosis cynnar.
Ar ddiwedd y flwyddyn, bydd cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer canser, a gyhoeddwyd yn y pedwerydd Cynulliad, yn dod i ben. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell y dylai fod gan bob gwlad strategaeth ganser, ni waeth pa gyfyngiadau ariannol y maent yn eu hwynebu. Wrth i'r cynllun cyfredol ddod i ben, mae angen inni sicrhau bod gan Gymru strategaeth ganser gynhwysfawr newydd sy'n addas i'r diben mewn byd sy'n newid, a fydd ar waith pan ddaw'r cynllun cyflawni cyfredol hwn i ben ar ddiwedd y flwyddyn. Strategaeth ganser gynhwysfawr newydd sy'n diwallu angen cleifion, ac yn bwysicaf oll, yn gwella canlyniadau i gleifion.
Mae llawer o'r elusennau canser y siaradaf â hwy’n rheolaidd yn teimlo bod hwn yn gyfle i Lywodraeth Cymru, ac i'r Senedd hon, sefydlu gweledigaeth newydd i wella canlyniadau i gleifion, gan gynnwys atal, diagnosis cynnar, mynediad at driniaeth ac ymchwil canser sydd o fudd i gleifion. Ac maent yn credu fel finnau fod yn rhaid i'r strategaeth ganser newydd gael ei hategu gan gynnydd yn y capasiti diagnostig, fel y gellir cael diagnosis a thriniaeth gyflymach i wella canlyniadau i gleifion.
Ar y pwynt hwn, hoffwn ganmol y ganolfan ddiagnosteg gyflym yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot. Mae'n enghraifft wych o sut i ddefnyddio diagnosteg yn gynnar, ac mae'n gweithio'n dda, gyda chleifion yn cael eu hatgyfeirio gan feddygon teulu os amheuir y gallai fod ganddynt ganser, pan fo symptomau amhenodol yn nodi arwyddion o ganser. Ymwelais â'r ganolfan yr wythnos diwethaf i weld y gwaith gwych y mae'r tîm yn ei wneud ar ddiagnosis cynnar o ganser. Ond mae'n cyflawni dwy swyddogaeth. Er y gall wneud diagnosis cynnar o ganser, gall hefyd dawelu meddwl y rheini nad oes canser arnynt yn gynnar hefyd. Ac rydym wedi gweld gostyngiad gan y tîm hwnnw o gyfnod aros o 84 diwrnod ar gyfartaledd i chwe diwrnod ar gyfartaledd. Am newid dramatig. Ac mae'n swyddogaeth a arweinir gan ofal sylfaenol.
Nawr, fel y mae’r cynnig yn ei nodi, mae diagnosis cynnar yn allweddol i wella cyfraddau goroesi canser, a gwyddom ei bod yn anos gwneud diagnosis o rai mathau o ganser. Rydym wedi sôn amdanynt yn barod: mae canser yr ofari a chanser y pancreas yn ddwy enghraifft o’r rheini sy’n cael diagnosis hwyrach. Ar gyfer yr wyth math mwyaf cyffredin o ganser gyda'i gilydd, mae cyfraddau goroesi fwy na theirgwaith yn uwch i'r rhai a gafodd ddiagnosis cynnar o gymharu â diagnosis ar gam diweddarach. Mae gwneud diagnosis i bobl ar y cam cynharaf yn hanfodol er mwyn rhoi'r cyfle gorau i gleifion oroesi. Un o'r prif ffactorau sy’n effeithio ar ba mor debygol yw rhywun o oroesi canser yr ysgyfaint, er enghraifft, yw pa mor gynnar y gwneir diagnosis—