9. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Diagnosis cynnar o ganser

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 11 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 4:40, 11 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Credaf fod yr hyn y soniwch amdano’n bwysig iawn, gan fod pobl sydd fel arfer yn iach ymhlith y gwaethaf. Rwy'n meddwl am ein cyd-Aelod Steffan Lewis, a oedd yn unigolyn heini ac iach iawn. Ni chafodd ddiagnosis tan ei fod yn ddifrifol wael, yng ngham 4. Mae cael diagnosis cynnar mor bwysig.