9. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Diagnosis cynnar o ganser

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 11 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 4:36, 11 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Hoffwn sôn am y syniad o arloesedd yn hyn oll a chrybwyll y ganolfan ddiagnosteg gyflym yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, y bûm yn ymweld â hi ychydig wythnosau yn ôl—gwn fod David wedi bod yno hefyd—a diolch i Helen Gray a Dr Heather Wilkes am yr amser a roesant i ni yno. Maent yn fenywod ysbrydoledig iawn, mae'n rhaid imi ddweud. Mae'r cyfleuster hwn yn dangos beth y gallwch ei wneud os oes gennych benderfyniad i wneud rhywbeth yn hytrach na bod disgwyl i chi wneud rhywbeth yn unig. Credaf ei bod yn werth sôn hefyd ein bod wedi cyfarfod â meddyg Macmillan, pan oeddwn i yno'n sicr, ac ymddengys mai cael yr holl feddygon gyda’i gilydd mewn un ystafell ar ddechrau taith y claf oedd y ffactor allweddol mewn gwasanaeth a oedd yn syndod mawr i mi.

Rwy'n ei alw'n syndod oherwydd ei fod yn wasanaeth gofal sylfaenol lle mae'n cymryd pump i chwe diwrnod yn unig i wneud diagnosis a chychwyn y camau cyntaf tuag at driniaeth briodol. Ac mae hynny o gymharu â'r hyn a oedd i’w gael cyn hynny, sef proses a oedd yn cymryd dros 80 diwrnod i wneud diagnosis a'i chychwyn. Meddyliwch am yr ansicrwydd a'r pryder i'r unigolion hynny wrth iddynt aros am 80 diwrnod, heb sôn am ddatblygiad y clefyd, sy'n ymwneud â diagnosis cynnar, wrth gwrs. Mae hynny oll yn diflannu os gallwch ddatrys hyn o fewn wythnos. Hyd yn oed os yw'r diagnosis yn un rydych yn ei ofni, rydych yn cael sicrwydd yn gynnar iawn yn y broses y gallai fod yn bosibl goroesi hyn hyd yn oed, a chredu hynny'n gynnar.

Agorwyd y ganolfan ddwy flynedd a hanner yn ôl i gymryd camau i leihau'r hanes eithaf gwael sydd gan Gymru o ran canlyniadau. Hyd yn oed yn y byd datblygedig, mae'r DU gyfan mewn gwirionedd, ond Cymru yn enwedig, yn bell ar ei hôl hi o gymharu â rhai o wledydd llawer tlotach dwyrain Ewrop. Gwnaeth rhwydwaith canser Cymru gais am gynllun peilot ar ôl gweld syniad da iawn ar waith yn Nenmarc, a oedd yn ymwneud â symptomau amhendant, y buom yn sôn amdanynt yn gynharach, a sut y caent eu trin yno, ac roedd hynny wedi arwain at ddiagnosis cynnar a chanlyniadau da iawn o ran gostwng nifer y marwolaethau hefyd.

Yr hyn a fu’n allweddol i lwyddiant Denmarc oedd eu hymagwedd wahanol tuag at symptomau amhendant. Felly, i gymharu, yng Nghymru, pan fo meddygon teulu yn atgyfeirio claf ag arwyddion cyffredin iawn o ganser, byddant yn dechrau ar y llwybr canser cyfarwydd y gwyddom amdano. Fodd bynnag, pan nad yw'r symptomau hynny mor amlwg—mae David Rees wedi crybwyll cryn dipyn ohonynt—pan nad ydynt yn bendant, mae'r achosion hynny'n cael eu hisraddio yn y system sy’n golygu, hyd yn oed pan fydd meddyg teulu yn credu’n reddfol fod gan unigolyn ganser ond heb symptomau pendant, maent yn mynd ar goll yn y system yn gynt o lawer. Yn Nenmarc, drwy sefydlu—fe’i galwaf yn glinig symptomau amhendant, os mynnwch. Roedd 30 y cant o'r bobl a ddeuai drwy'r drysau hynny yno oherwydd greddf meddyg teulu, a chredaf fod hynny'n rhywbeth sy’n werth ei ystyried wrth inni symud yn agosach tuag at dechnoleg ym maes gofal iechyd. Oherwydd efallai y gall deallusrwydd artiffisial wneud llawer iawn o waith i ddarganfod y 50 y cant o ganserau nad oes ganddynt symptomau amlwg, ond mae angen i gleifion fynd i mewn i'r system yn y lle cyntaf. Mae angen iddynt gael eu hatgyfeirio yn y lle cyntaf gan feddyg teulu, hyd yn oed i gael—