Part of the debate – Senedd Cymru am 6:04 pm ar 11 Mawrth 2020.
Diolch yn fawr am gymryd yr ymyrraeth. Dŷn ni, yn y pwyllgor dwi'n cadeirio yn lle Bethan, yn bwriadu gwneud sylw ar y pwnc sydd o'n blaen ni heddiw, ond gwnawn ni ystyried yn bendant y pwyntiau dŷch chi'n eu gwneud ynglŷn ag edrych at y pwnc yn ei gyfanrwydd, os ydy hynny'n addas, gan—fel rŷch chi'n ei ddweud—nad yw'r broblem yma ddim yn mynd i ddiflannu hyd yn oed os dŷn ni'n llwyddiannus yn yr ymgyrch yma i gadw y chwe gwlad yn rhydd.