Part of the debate – Senedd Cymru am 6:08 pm ar 11 Mawrth 2020.
Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar y gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Os gwrthodir y cynnig, fe bleidleisiwn ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 23, un yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig, a phleidleisiwn ar y gwelliannau.