Part of the debate – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 11 Mawrth 2020.
Hoffwn dynnu sylw'r Aelodau at y ddirprwyaeth o Gatalonia sy'n ymuno â ni yn yr oriel gyhoeddus, dan arweiniad Llywydd Senedd Catalonia, Roger Torrent. Rwyf hefyd yn meddwl am Lywydd blaenorol Senedd Catalonia, Carme Forcadell, sy'n parhau i fod yn y carchar hyd heddiw. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yma am ymuno â mi i groesawu'r Llywydd Torrent yn gynnes iawn i Gymru ac i'n Senedd. Croeso. [Cymeradwyaeth.]