Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 11 Mawrth 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, mae Canghellor y Trysorlys heddiw, yn ei gyllideb, wedi cyhoeddi nifer o ymrwymiadau ariannu allweddol i fentrau bach a chanolig eu maint, yn ogystal ag i'r diwydiant lletygarwch a manwerthu, yng ngoleuni bygythiad COVID-19, a godwyd gan lefarydd Plaid Cymru yn awr. Mae'r cyhoeddiad heddiw hefyd yn cynnwys £360 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn i Lywodraeth Cymru, mwy o fuddsoddi mewn seilwaith a mwy o fuddsoddi mewn darlledu, fel S4C. Felly mae'n ymddangos bod cyni—y mae aelodau o'ch Llywodraeth wrth eu boddau'n siarad amdano—yn prysur ddod i ben. A wnewch chi gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio symiau canlyniadol Barnett sy'n deillio o addewidion y Canghellor i gyfateb i gymorth Llywodraeth y DU?