Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 11 Mawrth 2020.
Wel, nid oedd y gronfa lleoedd newid yn un o'r eitemau a grybwyllwyd yn araith y Canghellor ei hun, ond rwy'n siŵr y deuaf o hyd i'r manylion yn y taenlenni sy'n cyd-fynd â'r cyhoeddiad. Felly, rwy'n mynd i fanteisio ar y cyfle i edrych yn fanwl ar yr hyn sydd wedi'i gynnig yn y taenlenni hynny a gweld lle mae'r symiau canlyniadol hynny. Felly, ar hyn o bryd, nid oes gennyf ddarlun llawn oherwydd bydd yn cymryd peth amser i ddadansoddi'r manylion, ond cyn gynted ag y byddaf wedi gwneud hynny, gallaf wneud cyhoeddiadau pellach.