Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 11 Mawrth 2020.
Cytunir ar strategaeth y gyllideb gan y Cabinet ar ddechrau'r flwyddyn. Caiff blaenoriaethu ei lywio gan drafodaethau dwyochrog rwy'n eu cael gyda Gweinidogion ac ymgysylltiad ehangach â'r pedwar comisiynydd statudol a rhanddeiliaid allanol. Mae cynllun gwella'r gyllideb yn amlinellu ein dull o wella proses y gyllideb yn fwy hirdymor.