Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 11 Mawrth 2020.
Diolch am yr ateb hwnnw. Weinidog, mae eich Llywodraeth wedi gwneud ymrwymiad i beidio â chynyddu cyfraddau treth incwm yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Pa asesiad rydych wedi'i wneud o effaith cyfraddau uwch o dreth incwm ar economi Cymru a theuluoedd Cymru, pe bai cynnydd yn cael ei gyflwyno yn y Cynulliad nesaf?