Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 11 Mawrth 2020.
Diolch i Dawn Bowden am godi'r mater penodol hwnnw, a rhoi'r cyfle imi bwysleisio'r ffaith nad yw'r gyllideb hon gan Lywodraeth y DU yn golygu bod cyni wedi dod i ben, mae'n fyw ac yn iach iawn. Mae Llywodraeth y DU wedi sicrhau nad yw ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf ond fymryn yn uwch na'r hyn ydoedd ddegawd yn ôl. Ac rwy'n credu bod hynny'n dangos ein bod yn dal i wynebu heriau fel Llywodraeth Cymru, ond mae'r heriau hynny yn sicr yn bwydo i mewn i lywodraeth leol, ac mae llywodraeth leol wedi bod yn awyddus iawn i'n hargyhoeddi nad yw un flwyddyn well o gyllid, fel rydym wedi gallu ei roi iddynt, yn gwneud iawn am ddegawd o gyni.