Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 11 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:42, 11 Mawrth 2020

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Cwpwl o gwestiynau ynglŷn â'r coronafeirws a'r paratoi am hynny. O ran y pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal yn benodol, a gawn ni ryw syniad gennych chi o'r math o drafodaethau sydd wedi bod yn digwydd rhwng y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chithau er mwyn sicrhau bod yr adnoddau priodol yn cael eu rhoi yn barod i'w rhannu, os nad oes eu hangen nhw ar hyn o bryd? Achos rydyn ni angen gwybod na fydd diffyg adnoddau yn rhwystr mewn unrhyw ffordd pan fydd y frwydr yn erbyn coronafeirws yn dwysau.