Part of 4. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 11 Mawrth 2020.
Mae codi ymwybyddiaeth yn flaenoriaeth allweddol i Gomisiwn y Senedd cyn etholiad nesaf y Senedd, yn enwedig ymhlith pobl ifanc 16 a 17 oed, a fydd yn cael yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf. Mae hyn yn cynnwys cyfrannu at ddatblygu adnoddau priodol fydd ar gael o fis Mai ymlaen. A hefyd rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid fel y Comisiwn Etholiadol a Llywodraeth Cymru er mwyn codi ymwybyddiaeth mewn pryd ar gyfer yr etholiadau flwyddyn nesaf.