Part of 4. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 11 Mawrth 2020.
Diolch am y ddwy agwedd yna o'r cwestiwn, sy'n ymwneud â'r ddwy agwedd newydd i'r etholfraint fydd yn berthnasol i'r etholiadau flwyddyn nesaf. Wrth gwrs, rydym ni wedi bod yn paratoi ychydig yn hirach am yr etholfraint yn ehangu i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17, gan ragdybio y byddai hwnna yn rhan o'r ddeddfwriaeth, ac felly mae ein gwaith ni yn ymwneud yn sicr â phobl ifanc drwy'r Senedd Ieuenctid i gychwyn, drwy'r partneriaid hynny sydd wedi cydweithio â ni wrth sefydlu'r Senedd Ieuenctid, ac sy'n gweithio yn uniongyrchol gyda phobl ifanc a gyda ein gwaith ni fel Comisiwn yn darparu ein cefnogaeth ni i ysgolion wrth ymgymryd â gwaith allgyrsiol, outreach, i hyrwyddo ymwybyddiaeth pobl ifanc Cymru o'r ddemocratiaeth a'r hawl newydd fydd gyda nhw, ac fe fydd y gwaith yna yn parhau ac yn dwysau yn ystod y misoedd i ddod.
O ran ail agwedd y cwestiwn, ynglŷn â'r etholfraint yn ehangu i gynnwys gwladolion tramor, wrth gwrs mae hwnna'n agwedd sy'n fwy newydd i ni fel Comisiwn, oherwydd fe ddaeth e'n rhan o'r ddeddfwriaeth yn ystod y broses sgrwtini, ac felly ein gobaith ni yw gweithio gyda'r Llywodraeth, wrth gwrs, a'r Comisiwn Etholiadol ar sicrhau bod dinasyddion Cymru sydd â'r hawl newydd yma i bleidleisio yn yr etholiadau flwyddyn nesaf yn ymwybodol o hynny. Felly, fe fyddwn ni dros y misoedd nesaf yma yn cychwyn ar y gwaith pwysig yma i sicrhau bod y Llywodraeth, llywodraeth leol, wrth gwrs, hefyd, yn mynd ati i roi'r wybodaeth gywir i bawb ynglŷn â'u hawl i bleidleisio, gan gofio, wrth gwrs, fod yn rhaid i hyn ddigwydd mewn pryd nid yn unig ar gyfer y bleidlais y flwyddyn nesaf ond, yn bwysig iawn, ar gyfer y ganfas eleni i roi pobl ar y gofrestr ar gyfer pleidleisio y flwyddyn nesaf.