Etholiad y Senedd 2021

Part of 4. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 11 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:43, 11 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich cwestiwn. Ydych, rydych yn llygad eich lle fod y panel arbenigol yn gryf iawn ei farn fod addysg wleidyddol ochr yn ochr â'r hawl i bleidleisio yr un mor bwysig â'i gilydd er mwyn galluogi pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Mae'r Comisiwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, y Comisiwn Etholiadol ac eraill, ond yn benodol, yn yr agwedd hon ar yr adnoddau sydd ar gael i ysgolion, ar ddatblygu adnoddau gyda Llywodraeth Cymru a fydd ar gael o fis Medi ymlaen i alluogi pobl 16 a 17 oed yn yr ysgol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eu hawl newydd i bleidleisio yn 16 a 17 oed, gan gofio, wrth gwrs, nad mewn lleoliad ysgol yn unig y bydd yr holl bobl ifanc sy'n cael yr hawl newydd honno i bleidleisio—byddant hefyd mewn colegau ac mewn gwaith—ac mae’n rhaid inni sicrhau bod pawb yn cael eu grymuso i’r un graddau i wybod am eu hawl newydd a sut i arfer yr hawl honno.