Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 11 Mawrth 2020.
Mae’r wythnos hon yn nodi can mlynedd ers marwolaeth Daniel James. Bardd a chyfansoddwr emynau oedd Daniel James, ond mae'n llawer mwy adnabyddus wrth ei enw barddol, Gwyrosydd. Er ei fod yn gyfansoddwr emynau toreithiog, mae'n fwyaf adnabyddus am gyfansoddi geiriau Calon Lân, a genir fel arfer ar dôn a gyfansoddwyd gan John Hughes o Ynysdawe yn Abertawe.
Cafodd ei eni a'i gladdu yn Abertawe. Roedd yn aelod o gapel Mynydd-bach, mam-eglwys mudiad yr Annibynwyr yn Abertawe, ac mae Canolfan Calon Lân bellach yn gysylltiedig â hi. Dechreuodd weithio fel pwdler yng ngwaith haearn Treforys, ac yn ddiweddarach, bu’n gweithio yng ngweithfeydd tunplat Glandŵr. Pan oedd yn ganol oed, caeodd gweithfeydd Glandŵr, a bu’n gweithio wedi hynny yn Nhredegar, Dowlais, Blaengarw, ac yn y pen draw, yn Aberpennar, gan dreulio 15 mlynedd yn un o byllau glo Nixon, ac yn olaf, wrth i’w iechyd wanychu, bu’n gweithio i'r awdurdod lleol.
Roedd llawer o'i farddoniaeth yn ddiymhongar ac yn boblogaidd iawn, ac ymddangosodd gyntaf mewn cyfnodolion a phapurau newydd. Byddai hefyd yn ysgrifennu cerdd am beint yn y King's Head yn Nhreboeth—efallai mai dyna'r 'cerddi a pheintiau' gwreiddiol. Mae coflech iddo wedi bod yn Neuadd Gyhoeddus Treboeth ers 1936, ac mae un fwy diweddar wedi'i gosod yng nghapel Caersalem Newydd yn Nhreboeth. Mae Cymdeithas Calon Lân yn Abertawe wedi cynnal sawl digwyddiad, a byddant yn gosod ffenestri gwydr lliw yn yr ysgol leol i goffáu bywyd Daniel James, y gweithiwr cyffredin a chanddo ddawn eithriadol a gyfansoddodd yr emyn mwyaf poblogaidd yng Nghymru, Calon Lân.