Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 17 Mawrth 2020.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd ym Mlaenau'r Cymoedd yn canolbwyntio ar fuddsoddi mewn lleoedd, pobl ac mewn seilwaith. Yn y modd hwnnw, rydym ni'n cefnogi swyddi newydd yn niwydiannau'r dyfodol, lle mae gwell cynhyrchiant yn bwydo ffyniant yn y rhan honno o Gymru.