Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 17 Mawrth 2020.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae cymorth i bobl sydd â chyflyrau niwroamrywiol yn parhau i ddatblygu drwy, er enghraifft, y gwasanaeth awtistiaeth integredig. Mae adolygiad galw a chapasiti o wasanaethau niwroddatblygiadol ar y gweill. Bydd cod ymarfer statudol ar y ddarpariaeth o wasanaethau awtistiaeth yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad ym mis Ebrill.